Tudalen 1 o 1 Chwiliwch Be' Sy' 'Mlaen
Tudalen 1 |
At sylw pob awdur anabl ifanc. Cystadleuaeth Ysgrifennu Creadigol
A ydych chi`n unigolyn anabl ifanc yn byw yng Nghymru sy`n gallu trin geiriau?
Cyflwynwch un gerdd neu un stori fer o hyd at 500 gair gan ddefnyddio `beth sy`n tanio`r fflam i chi?` i`ch ysbrydoli. Ystyriwch y canlynol – rhagoriaeth, cyfeillgarwch, parch, bod yn benderfynol, ysbrydoliaeth, cydraddoldeb.
Derbynnir eitemau gan ddau grŵp oedran: 13-16 oed a 17-25 oed
Byddwn yn gweithio gydag enillwyr pob categori i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu. Caiff gwaith yr enillwyr ei gynnwys mewn antholeg yn 2012.
Anfonwch eich cerdd neu stori fer at –
Cystadleuaeth Tanio`r Fflam
Celfyddydau Anabledd Cymru
Sbectrwm
Tyllgoed
Caerdydd
CF5 3EF
Ffôn: 02920 551 040
Ffacs: 02920 551 036
Neu anfonwch eich eitemau at: post@dacymru.com
Gallwch gystadlu hefyd ar fformat sain neu CD-rom neu unrhyw fformat arall a fyddai`n well gennych chi.
Tudalen 1 o 1 Chwiliwch Be' Sy' 'Mlaen
Tudalen 1 |